Neidio i'r prif gynnwy

 

A


Adenomyosis - Cyflwr lle mae celloedd leinin y groth (endometriwm) yn cael eu canfod yn wal gyhyr y groth (myometriwm).


Adnoddau - Pethau y mae pobl yn eu defnyddio i'w helpu i wneud pethau, i ddysgu pethau, neu i ddatrys problemau. Gallan nhw fod yn llyfrau, yn wefannau, yn offer, neu'n fathau eraill o ddeunyddiau sy'n darparu gwybodaeth a chymorth.


Anffrwythlondeb - Pan fydd eich gallu i feichiogi a chael plant wedi'i leihau.


Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) - Ffurf ddifrifol ar Syndrom Cyn Mislif (PMS). Mae symptomau PMDD yn debyg i PMS, ond maen nhw'n llawer mwy dwys ac yn gallu cael effaith lawer mwy negyddol ar weithgareddau bob dydd ac ansawdd bywyd.


Anymataliaeth - Anhawster yn rheoli'r bledren neu symudiadau'r coluddyn (hynny yw, anhawster yn rheoli mynd i'r tŷ bach, boed yn wrin neu ymgarthu).


Archwiliad abdomenol - Archwiliad abdomenol yw pan fydd meddyg yn gwirio ardal yr abdomen i weld a yw popeth yn iawn. Efallai y byddan nhw'n pwyso'n dyner neu'n gwrando gyda stethosgop.


Archwiliad pelfig - Prawf meddygol i wirio organau atgenhedlu ac organau eraill yn y pelfis. Yn ystod yr archwiliad, bydd darparwr gofal iechyd yn archwilio'r fagina, ceg y groth, y groth, y tiwbiau ffalopaidd, yr ofarïau, a'r rectwm.


B


Briwiau - Ardaloedd o ddifrod neu dwf meinwe anarferol yn y corff. Maen nhw'n gallu digwydd am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys anaf, haint, neu glefyd. Mae modd cael briwiau yn unrhyw le yn y corff, ac mae eu difrifoldeb yn gallu amrywio'n eang.


Bwrdd Iechyd - Y sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd y GIG i'w boblogaeth leol. Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd.


C


Canolfannau trydyddol endometriosis - Canolfannau meddygol arbenigol sy'n canolbwyntio ar wneud diagnosis a thrin achosion difrifol o endometriosis. Mae'r canolfannau yma'n cynnig gofal meddygol uwch a llawdriniaethau i helpu i leddfu symptomau a gwella ansawdd bywyd i'r rhai sydd â'r cyflwr.


Codenni siocled - Gair arall am 'endometriomas', sef codenni ar yr ofarïau sy'n llawn gwaed sydd wedi dod yn drwchus a thywyll.


Cronig - Gair sy'n disgrifio cyflyrau iechyd hirdymor.


Cwymp organau - Pan fydd organ yn cwympo neu'n llithro o'i safle arferol. Gall hyn ddigwydd mewn gwahanol rannau o'r corff, fel y groth, y rectwm neu'r bledren. Gall achosi anghysur neu boen, ac efallai y bydd angen sylw meddygol arno.


Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAIDs) - Meddyginiaethau a ddefnyddir i leddfu poen, lleihau llid, a dod â thwymyn i lawr. Maen nhw'n gweithio drwy atal cemegion penodol yn y corff sy'n achosi'r symptomau yma. Mae enghreifftiau o NSAIDs yn cynnwys aspirin, ibuprofen a naproxen.


Cyn-geni - Y cyfnod yn ystod beichiogrwydd cyn i'r babi gael ei eni.


CH


 


D


Difrifol - Anodd neu eithafol.


Dull Atal Cenhedlu - Dull a ddefnyddir i atal beichiogrwydd.


Dysmenorrhea - Term meddygol sy'n golygu mislif poenus. Mae'n golygu pan fydd rhywun yn profi crampiau neu boen yn yr abdomen isaf yn ystod eu cylch mislif.


Dysuria - Term meddygol sy'n cyfeirio at boen neu anghysur wrth fynd i'r tŷ bach (wrin). Gall amrywiaeth o gyflyrau ei achosi, ac mae'n symptom cyffredin mewn dynion a menywod.


E


Eiriolaeth - Pan fydd rhywun yn siarad ar ran rhywun arall neu grŵp o bobl er mwyn eu helpu i gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw neu'r hyn maen nhw'n ei haeddu. Mae'n cynnwys cefnogi a hyrwyddo hawliau a buddiannau pobl eraill. Gall hyn gynnwys eirioli dros well gofal iechyd, addysg neu hawliau cyfreithiol. Gall unigolion neu sefydliadau eirioli, ac mae'n aml yn cynnwys cyfathrebu gyda deddfwyr neu benderfynwyr eraill i sicrhau newid cadarnhaol.


Eiriolwr - Rhywun sy'n siarad ar ran eraill ac yn gweithio i gefnogi eu hawliau a'u hanghenion. Gallan nhw fod yn unigolion neu'n grwpiau sy'n ymroddedig i helpu'r rhai sydd heb lais neu sydd wedi'u hymyleiddio mewn cymdeithas. Gallai eiriolwyr weithio mewn meysydd fel gofal iechyd, addysg, neu gyfiawnder cymdeithasol i sicrhau bod gan bawb fynediad teg at gyfleoedd ac adnoddau.


Endometriomas - Codenni ar yr ofarïau sy'n llawn gwaed sydd wedi dod yn drwchus a thywyll.


Estrogen - Hormon sy'n cael ei gynhyrchu'n naturiol yn y corff dynol. Caiff ei ganfod yn bennaf mewn menywod, ond mae hefyd yn bresennol mewn dynion. Mae estrogen yn chwarae rhan bwysig yn datblygu nodweddion rhywiol a'r system atgenhedlu fenywol. Mae hefyd yn helpu i reoleiddio'r cylch mislif ac iechyd esgyrn.


F


Fwlfodynia - Cyflwr lle mae rhywun yn profi poen yn ardal y fwlfa, sef rhan allanol yr organau cenhedlu benywol. Gall fod yn broblem hirsefydlog, a gall wneud rhyw a gweithgareddau eraill yn anodd.


FF


 


G


Gofal eilaidd - Gwasanaethau meddygol sy'n cael eu darparu gan arbenigwyr meddygol ac ysbytai. Yn aml caiff y gwasanaethau yma eu darparu ar ôl i glaf gael ei atgyfeirio gan ddarparwr gofal sylfaenol, fel meddyg teulu. Gall gwasanaethau gofal eilaidd gynnwys triniaethau meddygol arbenigol, profion diagnostig, a llawdriniaethau. Fel arfer mae'r gwasanaethau yma'n fwy cymhleth ac arbenigol na'r rhai a ddarperir mewn lleoliadau gofal sylfaenol.


Gofal sylfaenol - Mae gofal sylfaenol yn cyfeirio at y pwynt cyswllt cyntaf i unigolion sy'n ceisio sylw meddygol. Fel arfer, caiff ei ddarparu gan ymarferwyr cyffredinol neu feddygon teulu, ac mae'n cynnwys gofal ataliol, diagnosis a thrin salwch ac anafiadau cyffredin, a rheoli cyflyrau cronig.


Gynaecoleg - Maes meddygol sy'n canolbwyntio ar iechyd y system atgenhedlu fenywol. Mae hyn yn cynnwys y groth, yr ofarïau, y tiwbiau ffalopaidd a'r bronnau. Mae gynaecolegwyr yn helpu menywod â materion sy'n gysylltiedig â mislif, ffrwythlondeb, beichiogrwydd a'r menopos. Maen nhw hefyd yn gwneud diagnosis ac yn trin cyflyrau fel canser ceg y groth a chanser yr ofarïau, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a phoen pelfig.


Gynaecolegydd - Meddyg sy'n arbenigo mewn trin y system atgenhedlu fenywol (y fagina, y groth, a'r ofarïau).


NG


 


H


Hormonau - Negesyddion cemegol sy'n cael eu gollwng yn uniongyrchol i'r gwaed, sy'n cario at organau a meinweoedd y corff.


Hysterectomi - Llawdriniaeth feddygol i dynnu'r groth. Weithiau caiff yr ofarïau eu tynnu hefyd.


I


 


J


 


L


Laparosgopi diagnostig - Llawdriniaeth feddygol sy'n defnyddio teclyn o'r enw laparosgop i roi diagnosis o endometriosis. Mae'n llawdriniaeth risg isel nad yw'n ymyrryd llawer; dim ond toriadau bach sydd eu hangen.


Laparosgopig - Llawdriniaeth feddygol yw laparosgopi sy'n defnyddio teclyn o'r enw laparosgop i wneud diagnosis o endometriosis a'i drin. Mae'n llawdriniaeth risg isel nad yw'n ymyrryd llawer; dim ond toriadau bach sydd eu hangen.


LL


 


M


Mapio Tudalennau - Ar ôl i chi greu tudalen newydd, os oes gennych fersiwn Cymraeg o'ch gwefan, yna mae angen mapio'r tudalennau hyn gyda'i gilydd. Os nad ydych chi'n defnyddio swyddogaeth cyfieithu awtomatig y wefan, yna bydd angen i chi greu hyn â llaw trwy fapio tudalennau.


Meinwe - Grŵp o gelloedd tebyg sy'n cydweithio i gyflawni swyddogaeth benodol yn y corff. Maen nhw'n creu llawer o wahanol rannau o'r corff, fel croen, cyhyrau ac organau.


Menopos - Pan fydd ofarïau menyw yn stopio gweithredu, a'i mislif yn dod i ben. Mae hyn un ai'n digwydd yn naturiol, neu pan gaiff ei ysgogi'n artiffisial drwy gyffuriau neu oofforectomi.


N


Nyrs endometriosis - Nyrs sy'n arbenigo mewn trin endometriosis. Yn aml, ond nid bob amser, maen nhw'n gysylltiedig â Chanolfan Endometriosis sydd ag achrediad BSGE.


O


Ofarïau - Organau sy'n cynhyrchu wyau yn y corff benywaidd.


Oofforectomi dwyochrog - Tynnu'r ddwy ofari.


Oofforectomi unochrog - Tynnu un ofari.


Organau atgenhedlu - Mae'r system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys ofarïau, tiwbiau ffalopaidd, fagina, chwarennau atodol, ac organau rhywiol allanol.


P


Pelfig - Yn ymwneud â'r pelfis. Rhan o'r corff o dan yr abdomen a rhwng esgyrn y glun yw'r pelfis, ac mae'n cynnwys y bledren a'r rectwm. Mewn menywod, mae hefyd yn cynnwys y fagina, ceg y groth, y groth, tiwbiau ffalopaidd a'r ofarïau. Mewn dynion, mae hefyd yn cynnwys y prostad a'r fesiglau semenol.


PH


 

R


 


RH


 


S


Sgil-effeithiau - Effeithiau digroeso triniaeth feddygol.


T


Tiwbiau ffalopaidd - Y ddau diwb sy'n cludo wyau menyw o'r ofarïau i'r groth.


U


Uwchsain - Prawf meddygol sy'n defnyddio tonnau sain i greu delweddau o du mewn i'r corff. Mae'n driniaeth ddiogel a di-boen sy'n gallu helpu meddygon i wneud diagnosis a thrin cyflyrau meddygol amrywiol.


W


Wro-gynaecoleg - Arbenigedd meddygol sy'n canolbwyntio ar wneud diagnosis a thrin cyflyrau sy'n gysylltiedig â'r system wrinol ac organau atgenhedlu benywol. Mae'n cynnwys problemau fel anymataliaeth, problemau â'r bledren, ac anhwylderau llawr y pelfis.


Y


Y groth - Rhan o'r system atgenhedlu fenywol.


Y gylchred fislifol - Y gylchred fisol o newidiadau yn yr ofarïau a leinin y groth, lle mae wy yn cael ei baratoi i'w ffrwythloni a lle mae ofylu yn digwydd. Os na chaiff yr wy ei ffrwythloni, mae'r gylchred yn dod i ben drwy waredu â rhan o'r endometriwm, sef mislif.